Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Rhannu’r Neges

Os ydych chi eisiau ennill… darllenwch hwn

Er mwyn i dîm ennill yr Her, rhaid i chi guro’r gystadleuaeth drwy gael y canran uchaf o bobl o’ch tîm i gymryd rhan.

Mae mor syml â hynny.

Cael rhagor o bobl i gymryd rhan = Dringo’r bwrdd arweinwyr

Er mwyn cael rhagor o bobl i gymryd rhan mae angen i chi ddweud wrthynt am yr Her. Felly dechreuwch rannu’r neges heddiw!

Edrychwch ar y posteri a thaflenni yma. Gallwch eu harddangos o amgylch eich gweithle a rhannu’r neges!

Gwahodd Ffrind

Y ffordd orau i gael eich cydweithwyr i gymryd rhan yw drwy anfon gwahoddiad iddynt.

Gallwch wahodd ffrind drwy glicio ar y botwm ‘Gwahodd Ffrind' unwaith y byddwch wedi cofrestru.

(daliwch y cyrchwr dros y botwm ‘Fi’ ac fe welwch y dewis 'Gwahodd Ffrind').

Beth am gael cydweithiwr i wneud newid trwy roi’r gorau i gymudo yn y car bob dydd a beicio neu gerdded i'r gwaith - gallant wneud arbedion ariannol ychwanegol yn ogystal â helpu’ch tîm i ennill.