Ynglyn â’r Her
Mae Her Deithio Cymru yn rhedeg o 1 i 31 o Orffennaf, 2017.
Nod yr her yw cael cymaint o bobl â phosibl i deithio’n gynaliadwy ar gyfer siwrneiau lleol.
Mae’n andros o hwyl a byddwn yn rhannu nifer o wobrau ar hyd y ffordd.
Cewch gystadlu fel gweithle, fel rhan o is-dîm – eich adran efallai – neu ar eich pen eich hun. Y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw {cofrestru} a chychwyn cofnodi eich siwrneiau.
Pa siwrneiau sy’n cyfrif?
Nod yr her yw lleihau’r nifer o siwrneiau a wneir mewn car fel teithiwr unigol a thrwy wneud hynny, cynyddu gweithgaredd corfforol. Gellir cofnodi unrhyw siwrne i gynyddu cyfanswm eich tîm. Gallai hyn gynnwys cymudo i’r gwaith; mynd a’r plant i’r ysgol; taith i siopa; neu yn eich amser hamdden. Mae pob siwrne’n cyfrif!
I gymryd rhan bydd angen i chi gofnodi eich siwrneiau ar droed, ar feic, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac wrth rannu car a po fwyaf o siwrneiau y byddwch yn eu cofnodi, yr uchaf ar y bwrdd arweinwyr yr ewch chi.
Sut i gofnodi siwrne
- Agor eich tudalen proffil
- Clicio’r botwm ‘cofnodi siwrne’
- Cofnodi’ch siwrne
Os ydych chi’n teithio i’r gwaith gan ddefnyddio mwy nag un dull teithio gallwch eu cofnodi fesul un fel teithiau ar wahân.
Oes oes gennych unrhyw gwestiynau am yr Her gallwch gysylltu gyda ni yma: CymruTravelChallenge@sustrans.org.uk