Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Pam Cymryd Rhan?

Mae’r Her yn rhoi cyfle i chi ddod at eich gilydd fel gweithle neu adran ble gallwch chi ryngweithio gyda ffrindiau neu gydweithwyr a gweithleoedd eraill yng Nghymru. Mae’n andros o hwyl a chewch gyfle hefyd i ennill gwobrau!

Yn ogystal ag arbed amser ac arian i chi, byddwch yn adeiladu gweithgaredd corfforol i’ch arferion dydd i ddydd. Mae teithio egnïol (cerdded, rhedeg neu feicio) yn gallu rhoi hwb i’ch lefelau egni, gwella eich iechyd a’ch lles. Byddwch hefyd yn gwneud eich rhan i’n hamgylchedd drwy leihau llygredd a thagfeydd pan fyddwch chi’n teithio’n gynaliadwy.

Pam Beicio?

Mae beicio yn datrys cymaint o broblemau mewn un: mae'n eich cadw’n heini, mae'n rhad, dibynadwy, ac yn mynd â chi o ddrws i ddrws felly’n arbed amser. Os ydych yn beicio'n rheolaidd byddwch yn arbed ffortiwn ac yn adeiladu ymarfer corff i mewn i’ch arferion dydd i ddydd yn ogystal â theithio heb lygru’r amgylchedd.

Ar gyfartaledd, mae beicwyr yn byw dwy flynedd yn fwy na rhai nad ydynt yn beicio, ac mae beicwyr rheolaidd mor heini â pherson arferol sydd 10 mlynedd yn iau. Mae beicio yn codi eich cyfradd fetabolig, gan eich cynorthwyo i gadw'r pwysau draw. Yn wanhaol i'r gred boblogaidd, mae beicwyr yn anadlu llai o lygredd o draffig nag a wna gyrwyr ceir.

Mae aelwydydd y DU yn gwario cyfartaledd o un o bob chwe phunt ar deithio. Nid yw'n ddrud i brynu beic gweddol a bydd yn costio tua £75 y flwyddyn i'w gynnal a'i gadw. Os byddwch yn dysgu sgiliau cynnal a chadw sylfaenol eich hun bydd yn costio hyd yn oed llai.

Arbedir tua 2kg o garbon ar gyfer pob siwrnai fer a wneir gan ddefnyddio beic yn lle'r car. Mae newid hyd yn oed un siwrnai'r wythnos o'r car i'r beic yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n hamgylchedd.

Pam Cerdded?

Mae cerdded rheolaidd yn wych i'ch iechyd. Ar gyfer oedolion, mae 30 munud o gerdded pum diwrnod o'r wythnos yn lleihau’n sylweddol y perygl o ddatblygu clefyd y galon, diabetes, gordewdra a rhai canserau. Mae cerdded hefyd yn lleihau colesterol, gostwng pwysedd gwaed uchel a lleihau’r perygl o ddioddef strôc. Er mai 30 munud y diwrnod o ymarfer corff a argymhellir, mae unrhyw gyfnod o 10 munud neu fwy yn cyfrif tuag at hyn felly mae cerdded yn ffordd wych o weithio tuag at y targed.

Mae'n dda i'ch calon a'ch ysgyfaint, ac yn wych ar gyfer cryfhau eich cyhyrau, eich esgyrn a’ch cymalau. Wrth i chi heneiddio mae cerdded rheolaidd yn cynorthwyo i gynnal hyblygrwydd a chyd-symud. Mae cerdded hefyd yn dda i’ch teimlad o les, mae’n gwella eich hwyliau ac yn rhoi hwb i’ch hunan-barch. Mae tua thraean o'r siwrneiau a wneir gennym yn llai na milltir o hyd. Pe baem i gyd yn cyfnewid un siwrne car yr wythnos ac yn cerdded yn ei lle, byddai lefelau traffig ceir yn gostwng gan o leiaf 10%.

Pam defnyddio Trafnidiaeth Gyhoeddus?

Drwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gallwch:

  • Gael ychydig mwy o ymarfer corff drwy gerdded i’r orsaf neu’r safle bws, neu ddod oddi ar y bws un orsaf yn gynt
  • Helpu i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd yn ystod oriau brig
  • Darllen llyfr a mwynhau'r daith
  • Lleihau’r swm o CO2 a allyrrir fel rhan o'ch siwrne
  • Helpu i ddiogelu'r amgylchedd drwy leihau eich dibyniaeth ar danwydd ffosil

Pam Rhannu Car?

Drwy rannu car i'r gwaith gallwch:

  • Helpu i leihau tagfeydd ar ein ffyrdd ar adegau brig
  • Lleihau eich dibyniaeth ar eich car ac arbed arian ar danwydd
  • Lleihau'r swm o CO2 a allyrrir fel rhan o'ch siwrnai
  • Helpu i ddiogelu'r amgylchedd drwy leihau eich dibyniaeth ar danwydd ffosil