Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Cwestiynau Cyffredin

Beth yw’r Her?

Mae’r Her yn canolbwyntio ar eich helpu i fod yn iachach drwy adeiladu gweithgaredd corfforol i mewn i’ch arferion dydd i ddydd. Bydd lleihau siwrneiau car hefyd yn arbed amser ac arian i chi yn ogystal â lleihau llygredd aer a thagfeydd traffig. Felly mae cymryd rhan yn yr Her yn dda i chi a hefyd yn dda i’r amgylchedd.

Gall unigolion a busnesau gofrestru ar y wefan a dechrau cofnodi eu siwrneiau cynaliadwy i’r gwaith, ar gyfer hamdden neu fel rhan o fywyd bob dydd. Gallai’r siwrneiau hyn gynnwys rhedeg, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu rannu siwrne gyda ffrind.

Mae’r Her yn agored i unrhyw weithle yng Nghymru.

Pa bryd mae’r Her?

01/07/17 hyd 31/07/17

Sut ydw i’n cysylltu gyda Thîm yr Her?

Os oes unrhyw gwestiynau gennych ynghylch yr Her, cysylltwch â’r Tîm Her ar CymruTravelChallenge@Sustrans.org.uk

Pa siwrneiau sy’n cyfrif?

Mae unrhyw siwrne ble’r ydych yn teithio ar drafnidiaeth gynaliadwy yn cyfrif. Gallai hyn gynnwys cymudo i’r gwaith, siwrneiau i gyfarfodydd neu rhwng swyddfeydd, neu deithiau hamdden fel mynd i siopa neu am noson allan neu dim ond mynd am dro. Mae dulliau teithio cynaliadwy yn cynnwys cerdded, beicio, defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus and rhannu car.

Oes rhaid i mi fod yn rhan o dîm i gymryd rhan?

Na. Cewch gymryd rhan fel unigolyn, yn ogystal â fel rhan o dîm mudiad neu adran.

Os yw'r Her eisoes wedi dechrau. A allaf ymuno?

Yn hollol! Gallwch gofrestru ar unrhyw adeg yn ystod yr her.

Beth mae’r Her yn gobeithio ei gyflawni?

Rydym yn ceisio codi ymwybyddiaeth am fuddion teithio cynaliadwy i’ch iechyd, i’ch cyllid ac i’n hamgylchedd. Drwy ddewis cerdded neu feicio, neu ddewis trafnidiaeth gyhoeddus, byddwch yn arbed amser, arian, lleihau allyriadau carbon a thagfeydd yn ogystal â rhoi hwb i’ch lefel egni ac yn llosgi calorïau. Bydd yr Her hefyd yn arbed arian i fusnesau ac mae wedi profi ei bod yn lleihau absenoldeb gan 2.4 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd.

Pwy sy’n cynnal yr Her?

Cynhelir yr Her gan Sustrans Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn defnyddio cyllid gan gynllun grantiau Her Iechyd Cymru i’r sector gwirfoddol. Mae Sustrans yn elusen flaenllaw yn y DU sy'n galluogi pobl i deithio ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhagor o’r siwrneiau a wnawn bob dydd. I ddysgu rhagor ac i ymuno â’r mudiad, ewch at www.sustrans.org.uk/cy/wales

Sut mae’r arbedion carbon, calorïau a chost yn cael eu cyfrifo?

Mae’r cyfrifon carbon wedi’u seilio ar ddata o ddogfen gan Defra (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig) 'Guidelines to Defra / DECC’s GHG Conversion Factors for Company Reporting: Methodology Paper for Emission Factors' and use approximate figures based on the average car.

Mae arbedion calorïau wedi’u seilio ar ffigurau cyfartalog GIG ar weithgaredd cerdded a beicio.

Mae cyfrifiadau cost wedi’u seilio ar ddata gan yr AA o amgylch cost rhedeg car, ac yn defnyddio ffigurau brasgywir ar sail car cyffredin.

Beth fydd Sustrans yn ei wneud gyda’r canlyniadau?

Bydd y canlyniadau cyflawn yn cael eu defnyddio i fesur effaith yr Her a gallai’r data gael ei ddefnyddio ar gyfer gwella Heriau yn y dyfodol. Ni fydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei rannu nac ar gael i unrhyw un heblaw Tîm Her Sustrans.

Ydi cerdded neu feicio am gyfnod byr yn gwneud unrhyw wahaniaeth go iawn?

Mae gwneud un siwrne fer ar droed neu ar feic yn gallu arbed tua 2kg o garbon o’i gymharu â gyrru. Mae buddion iechyd sylweddol hefyd os gwneir siwrneiau rheolaidd.

Onid ydi beicio yn berygl?

Mae digon o gyngor diogelwch da gan Sustrans yma ar gyfer beicio’n ddiogel.

Mae nifer o awdurdodau lleol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant beicio i blant ysgol.

O ran ystadegau damweiniau ffordd, mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cofnodi fod y perygl o feicio yn gymharol ar y cyfan â’r peryglon o fod deithio ar droed . Mae teithio mewn car yn parhau i fod yn fwy perygl. Ac o ystyried y buddion iechyd, ymddengys y gall peidio beicio fod yn fwy perygl na beicio.

Beth fyddwn i’n ei wisgo?

Gwisgwch beth bynnag yr hoffech chi, gyn belled â’ch bod yn gyfforddus. Er gwaetha’r ddelwedd boblogaidd, nid yw gwisgo lycra o’ch corun i’ch sawdl yn ofynnol er mwyn teithio gyda beic.

Beth os nad teithio’n egnïol yw’r ateb i mi?

Mae nifer o ffyrdd eraill o leihau eich siwrneiau car. Mae rhai o’r rhain yn cynnwys:

  • Cynadledda ar y we, cyfarfodydd Skype neu delegynadledda
  • Gweithio o adref
  • Rhannu car ar gyfer siwrneiau busnes yn ogystal â chymudo
  • Cyfeillion trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer y rhai sy’n gweithio shifftiau hwyr y nos/rhannu ceir ayyb.

Dwi’di bachu ar y syniad o deithio’n egnïol. Beth fedra i'w wneud nesaf?

Gyntaf oll, mae hyn yn newyddion gwych! Pam nad ewch chi ati i rannu’ch brwdfrydedd gyda rhagor o bobl. Edrychwch ar yr wybodaeth yma am y pethau y gallwch eu gwneud yn eich cymuned neu gyda’r teulu.

Mae Sustrans hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau y gallwch gymryd rhan ynddynt. Chwiliwch am ddigwyddiadau yn eich ardal yma.

Os hoffech helpu Sustrans i wneud gwahaniaeth i iechyd pobl ac i’r amgylchedd ewch i gael golwg ar yr ymgyrchoedd presennol neu cefnogwch eu gwaith drwy godi arian. Cymrwch ran, rhannwch y neges ac ymunwch â’r mudiad!

Dewisais y gweithle anghywir wrth gofrestru. Sut ydw i’n ei newid?

Ewch at eich tudalen proffil a sgrolio i’r gwaelod. Fe welwch eich manylion cysylltu â botwm ‘golygu manylion’ (nid all unrhyw un arall weld hwn a rhaid i chi fod wedi mewngofnodi iddo weithio). Cliciwch ar hwn a gallwch ddewis gweithle gwahanol i ymuno ag ef a golygu eich manylion cysylltu.

Mae’n ymddangos nad ydw i’n rhan o dîm. Sut ydw i’n mynd ati i ymuno â thîm fy ngweithle?

Os gwnaethoch chi gofrestru ond heb glicio ar y botwm ‘ymuno â gweithle’ yna bydd angen i chi olygu eich proffil a cheisio ymuno â’r tîm gweithle eto. Ewch at eich tudalen proffil a sgrolio i’r gwaelod. Fe welwch eich manylion cysylltu â botwm ‘golygu manylion’. Cliciwch ar hwn a bydd modd i chi ddewis ymuno â’ch tîm gweithle.

Os nad yw’ch gweithle wedi’i gofrestru, gallwch ei gofrestru yma hefyd.

Sut ydw i’n golygu fy mhroffil?

Ewch at eich tudalen proffil a sgrolio i’r gwaelod. Fe welwch eich manylion cysylltu â botwm ‘golygu manylion’ (nid all unrhyw un arall weld hwn a rhaid i chi fod wedi mewngofnodi iddo weithio). Cliciwch ar hwn a gallwch olygu eich manylion cysylltu.

Os oes angen golygu unrhyw rai o’ch siwrneiau, gallwch glicio ar y botwm ‘gweld siwrneiau’ sydd i’w gael o dan gyfansymiau siwrneiau eich proffil.

Sut ydw i’n gwneud newidiadau i broffil fy ngweithle?

Os mai chi sefydlodd y gweithle yn wreiddiol, gennych chi fydd yr hawliau gweinyddol ar gyfer dudalen proffil y gweithle.

Os mai chi yw’r Capten/Gweinyddwr Tîm:

Mewngofnodwch ac ewch at dudalen proffil eich gweithle. Os sgroliwch i lawr i waelod y dudalen, fe welwch y botwm ‘golygu manylion’. Cliciwch ar hwn ac fe gewch y dewis o olygu manylion y tîm (yn cynnwys ychwanegu neu addasu adrannau). Gallwch ddod o hyd i ragor o dimau drwy glicio’r botwm ‘rhagor o fanylion’. Bydd hyn yn eich galluogi i weld pwy sydd wedi cofrestru ar gyfer y tîm ac i gael eu manylion cyswllt os byddwch angen cysylltu gyda nhw.

Am ragor o fanylion am hyn, cliciwch yma.

Os nad chi yw’r Capten/Gweinyddwr Tîm:

Sgroliwch i lawr i waelod y dudalen proffil gweithle ac fe welwch enw’r person sydd yn y rôl hon.

Sut ydw i’n darganfod pwy yw’r gweinyddwr gweithle /Capten Tîm?

Os ydych chi eisiau darganfod pwy yw eich Capten Tîm, sgroliwch i lawr i waelod y dudalen ac fe welwch eu henw.

Sut mae cysylltu gyda phawb yn y gweithle i’w hatgoffa i ymuno?

Mae hyn yn rhywbeth y bydd raid i’ch Capten Tîm wneud i chi. Byddent yn gallu cael mynediad at gyfeiriadau ebost y tîm cyfan. Gallent hefyd ychwanegu is-dimau/adrannau drwy olygu manylion y gweithle.

Os mai chi yw’r Capten Tîm cliciwch yma am ragor o wybodaeth am sut i wneud hyn.

Gawn ni gadw llygad ar y cystadleuwyr eraill? Hoffem wneud yn well na nhw.

Gallwch. Yr ‘Her Nemesis’ yw enw hon.

Bydd angen i’ch Capten Tîm osod hwn i chi ond mae’n hynod o rwydd.

  1. Gofyn i’ch Capten Tîm/gweinyddwr fewngofnodi.
  2. Gofyn iddynt fynd i dudalen proffil y gweithle yr ydych yn dymuno ei ‘wylio’ (gellir dod o hyd i’r holl dimau sy’n cystadlu ar y tudalennau canlyniadau).
  3. O dan yr enw gweithle gwelir botwm ‘Gwylio’r gweithle hwn’.
  4. Clicio’r botwm.

Nawr ewch yn ôl at broffil eich gweithle’ch hun a gwelwch adran sy’n dangos y gweithleoedd yr ydych yn eu gwylio. Gallwch weld sut maen nhw’n dod yn ei blaenau a pha mor bell ar eu hol neu o’i blaenau yr ydych chi.

Hoffwn gael Her bersonoledig i fy sefydliad. Ydi hyn yn bosibl?

Ydi, gallwn gynnig Her bersonoledig. Cysylltwch gyda challenge@sustrans.org.uk i drafod eich anghenion