Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Awgrymiadau defnyddiol i'ch helpu i roi cynnig ar wahanol fathau o deithio

Edrychwch ar awgrymiadau defnyddiol hyn ar gyfer cynnig ar wahanol fathau o deithio:

Nid oes gen i feic, ond hoffwn gael un sy’n gweddu i fy anghenion

Mae ystod eang o wahanol feiciau i weddu at bob math o anghenion – y tric yw dewis eich beic ar gyfer y siwrne reolaidd yr ydych am ei gwneud.

Mae rhai cyflogwyr yn cynnig y Fenter Beicio i’r Gwaith/Cycle to Work Scheme fel ffordd o alluogi gweithwyr i gael beiciau newydd am bris gostyngedig a thalu amdanynt mewn rhandaliadau, holwch os yw eich cyflogwr chi’n cynnig hyn.

Pa fath o feic ddylwn ei brynu?

Mae beiciau ffordd yn chwim ac ysgafn, ond mae’r rhai sy’n newydd i feicio weithiau yn gweld yr ystum eistedd yn rhy gaeth. Er bod beic mynydd yn fwy cadarn ac yn galluogi’r beiciwr i eistedd i fyny’n syth, byddwch yn si?r o roi teiars llyfn arno os byddwch am reidio ar y ffordd! Mae beic hybrid yn gyfaddawd rhwng y ddau - ffrâm ysgafn ond ystum sythach.

Mae beiciau sy’n plygu yn gynyddol boblogaidd, ac mae fersiynau modern yn gyfforddus ac effeithlon. Ond, gall yr olwynion llai wneud gwaith caled o elltydd! Ar ben arall y raddfa, mae beiciau trydanol yn arbed llawer o ymdrech sydd ei angen ar gyfer teithiau cymudo pellach.

Mae’n rhy bell i mi gerdded neu feicio i’r gwaith!

Gallech synnu pa mor bell y gallwch feicio’n gyfforddus. Os yw’r daith yn dal i ymddangos yn ormod, beth am gerdded neu feicio i orsaf bws neu reilffordd? Mae hyn yn ffordd wych o gynnwys rhywfaint o deithio egnïol yn eich cymudo dydd i ddydd.

Ond mae’n rhaid i mi fynd â’r plant i’r ysgol!

Byddai bron i 50% o blant yn hoffi beicio i’r ysgol, ond dim ond 4% sy’n gwneud. Os yw’ch plant ddigon hen, gallech geisio cerdded neu feicio gyda’ch gilydd ar gyfer teithiau lleol cyn ymgeisio'r daith ysgol.

Mae llawer o gyngor ar wefan Sustrans, yn cynnwys llawer o wybodaeth a gweithgareddau ymarferol i ysgolion yng Nghymru eu lawrlwytho

Rydw i wedi arfer gyrru ac nid ydw i’n siwr o’r ffordd orau i gerdded neu feicio.

Mae hyn yn hawdd i’w ddatrys! Cliciwch yma am gymorth i gynllunio eich llwybr. Wrth deipio eich cod post cartref, daw map i’r golwg sy’n dangos llwybrau cerdded a beicio lleol, safleoedd bws a gorsafoedd, fel y gallwch wneud eich ffordd.

Mae’n bwysig cofio mai go brin y bydd angen i chi feicio lawr y ffordd brysur honno yr ydych yn gyrru arni. Mae penwythnosau yn amser da i fynd allan a threialu llwybr – mae’n llai prysur – neu rhowch ganiad i’r ffrind hwnnw sydd gennych sy’n beicio (mae’n siwr eich bod yn adnabod un) a gofyn iddynt ddod gyda chi ar eich cyrch am lwybr.