Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Ynglyn â Sustrans

Mae Sustrans yn elusen flaenllaw sy'n galluogi pobl i deithio ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhagor o’r siwrneiau a wnawn bob dydd.

Rydym yn gweithio gydag ysgolion, cymunedau, llunwyr polisi, gweithleoedd ac awdurdodau lleol fel y gall pobl ddewis siwrneiau iachach, glanach a rhatach gyda gwell lleoedd a gofodau i symud drwyddynt a byw ynddynt.

Am ragor o wybodaeth am ein gwaith yng Nghymru cysylltwch â sustranscymru@sustrans.org.uk neu dilynwch ein cyfrif Trydar @SustransCymraeg

Mae gan Sustrans dros 30 mlynedd o brofiad o ddatblygu a chyflwyno mentrau ymarferol, cost-effeithiol sy'n galluogi llawer mwy o bobl i deithio ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus.

Ein gweledigaeth yw byd lle mae pobl yn dewis teithio mewn ffyrdd sydd o fudd i'w hiechyd ac ein hamgylchedd.

Ein cenhadaeth yw dylanwadu ar arfer a llunio polisi fel y gall pawb deithio ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhagor o'r siwrneiau a wnawn bob dydd.

  • Rydym yn gatalydd – rydym yn gwneud dewisiadau teithio craffach yn bosibl.
  • Rydym yn ymgyrchu – rydym yn gwneud dewisiadau teithio craffach yn ddymunol.
  • Rydym yn dylanwadu – rydym yn gwneud dewisiadau teithio craffach yn anorfod.

Sustrans yw'r elusen sy'n galluogi pobl i deithio ar droed, beic neu drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer rhagor o'r siwrneiau a wnawn bob dydd. Mae ein gwaith yn ei gwneud yn bosibl i bobl ddewis siwrneiau iachach, glanach a rhatach, gyda lleoedd a gofodau gwell i symud drwy a byw ynddynt.

Mae'n bryd i ni gyd wneud dewisiadau gwell yn y ffordd yr ydym yn teithio. Cymerwch y cam a chefnogwch Sustrans heddiw

Mwynhewch atgofion melys o ddyddiau allan gyda’r teulu, teithiau heb gar i’r gwaith yn yr awyr iach, lle prydferth i ollwng ychydig o stêm... beth bynnag ydyn nhw, maen nhw i gyd yn rhesymau gwych i noddi’r filltir honno’r ydych chi wrth eich bodd gyda hi.

Dyma eich cyfle i helpu i gynnal a thyfu ein Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol hyfryd.

Noddwch filltir o'r RhBC