Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Telerau ac Amodau

Yn y telerau ac amodau hyn, mae "ni" ac "ein" yn cyfeirio at Sustrans a chyfeirir at y gwasanaeth a ddarparwn ar cym.travelchallenge.getmeactive-cymru.org.uk fel y Gwasanaeth. Mae eich cyfraniad, mynediad at a defnydd yr holl wybodaeth ("Cynnwys") ar y wefan hon yn cael ei ddarparu yn amodol ar y telerau ac amodau hyn.

Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio'r Hysbysiad hwn ar unrhyw adeg ac mae eich defnydd o'r wefan hon yn dilyn unrhyw newidiadau yn golygu eich bod yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a'r amodau fel y'u diwygiwyd. Felly, rydym yn argymell eich bod yn darllen y telerau ac amodau hyn bob tro y byddwch ymweld â'n gwefan.

Aelodau

  1. Er mwyn cael mynediad at y Gwasanaeth a ddarperir ar y wefan hon, mae'n rhaid i chi fod yn aelod. Mae'n rhaid i chi gwblhau cofrestriad trwy ddarparu gwybodaeth benodol fel y nodir ar y dudalen aelodaeth/cofrestru. Os gwelwch yn dda hefyd, cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd sydd ar gael ar ein tudalen hafan am wybodaeth sy'n ymwneud â'r modd yr ydym yn casglu, cadw a defnyddio’r manylion a roddwch wrth gofrestru.

  2. Rydych yn cytuno i sicrhau bod eich manylion cofrestru, gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad ebost, yn wir a chywir bob amser a byddwch yn ymgymryd i ddiweddaru eich manylion cofrestru o bryd i'w gilydd pan fyddant yn newid. Os ydym yn dod yn ymwybodol bod naill ai eich enw a/neu gyfeiriad ebost yn anghywir, rydym yn cadw'r hawl i ganslo eich cofrestriad ar unwaith a bydd eich derbyn ar gyfer cofrestru yn y dyfodol yn ôl ein disgresiwn.

  3. Wrth gofrestru, byddwn yn rhoi cyfrinair ac enw defnyddiwr i chi. Wrth gofrestru, rydych yn cytuno i dalu am y Gwasanaeth fel y nodir ar ein gwefan.

  4. Rydym yn cadw'r hawl i derfynu eich aelodaeth ar unrhyw adeg os byddwch yn torri'r amodau a'r telerau hyn.

Cynnwys Wedi’i Rannu

  1. Rydych yn gyfrifol am yr holl ac unrhyw Gynnwys yr ydych chi’n ei gyfrannu at y Gwasanaeth. Pan fyddwch yn darparu Cynnwys rydych yn cadw perchnogaeth yr eiddo deallusol hwnnw, fodd bynnag, byddwch yn rhoi i ni drwydded anghyfyngedig, heb freindal, ledled y byd (gyda'r hawl i is-drwyddedu) i ddefnyddio (gan gynnwys copïo, atgynhyrchu, addasu, newid, cyhoeddi, darlledu, trosglwyddo, arddangos a dosbarthu) y Cynnwys mewn unrhyw a phob cyfrwng, gan gynnwys ffurfiau heb eu datblygu eto. Mae'r drwydded hon yn dod i ben pan fyddwch yn rhoi'r gorau i’ch aelodaeth ac eithrio ar gyfer Cynnwys sydd eisoes wedi cael ei ryddhau fel rhan o'r Gwasanaeth.

  2. Rydym yn cadw'r hawl, ond ni fyddem wedi’n rhwymo i hynny, i ddileu neu wrthod dosbarthu unrhyw Gynnwys. Rydym hefyd yn cadw'r hawl i addasu neu newid eich Cynnwys am unrhyw reswm, gan gynnwys at ddibenion dosbarthu.

  3. Drwy rannu Cynnwys ar y wefan hon, rydych yn addo i ni nad yw’r Cynnwys yn torri hawliau rhywun arall ac nad yw'n groes i'r gyfraith mewn unrhyw ffordd arall megis drwy fod yn ddifrïol, neu fod ynddo gynnwys hiliol neu fygythiol.

  4. Fel aelod, rydych yn cytuno i’n hindemnio a’n cadw ni'n ddiddrwg rhag unrhyw atebolrwydd, cais, gweithred, hawliad, colled, costau, gan gynnwys costau cyfreithiol ar sail indemniad llawn a threuliau sy'n deillio o neu sy’n codi mewn cysylltiad ag unrhyw Gynnwys a ddarperir gennych.

  5. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, rydych yn ein rhyddhau ac yn ein gollwng rhag unrhyw atebolrwydd neu hawliad sy'n deillio o unrhyw golled neu ddifrod a allech ei ddioddef neu ei brofi o ganlyniad i ddefnyddio'n Gwasanaeth. Mynediad at y Safle

  6. Nid yw Mynediad at ein Gwasanaeth yn cynnwys yr hawl i ddefnyddio unrhyw robotiaid cloddio data nac offer echdynnu arall. Nid yw mynediad chwaith yn caniatáu i chi i fetatagio nac adlewyrchu ein gwefan heb i ni roi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Rydym yn cadw'r hawl i roi rhybudd i chi os byddwn yn ymwybodol eich bod yn metatagio neu’n adlewyrchu ein gwefan.

Hyperddolenni

  1. Mae'r wefan hon o bryd i'w gilydd yn cynnwys hyperddolenni i wefannau eraill. Mae cysylltiadau o'r fath yn cael eu darparu er hwylustod yn unig ac nid ydym yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys a chynnal a chadw neu gydymffurfio preifatrwydd gan unrhyw wefan wedi’i chysylltu fel hyn. Nid yw unrhyw hyperddolen ar ein gwefan i wefan arall yn awgrymu ein cymeradwyaeth, cymorth, neu nawdd gweithredwr y wefan honno nac ychwaith am yr wybodaeth a/neu gynhyrchion y maent yn eu darparu.

  2. Cewch greu dolen â'n gwefan heb ein caniatâd. Bydd unrhyw gysylltu o'r fath yn gyfan gwbl ar eich cyfrifoldeb ac ar eich traul chi. Trwy gysylltu, rhaid i chi beidio newid unrhyw ran o gynnwys ein gwefan, gan gynnwys unrhyw hysbysiadau eiddo deallusol a rhaid i chi beidio fframio neu ailfformatio unrhyw un o'n tudalennau, ffeiliau, delweddau, testun neu ddeunyddiau eraill.

Hawliau Eiddo Deallusol

  1. Mae hawlfraint yr holl gynnwys ar y wefan hon, gan gynnwys applets, graffeg, delweddau, cynlluniau a thestun yn perthyn i ni, neu mae gennym drwydded i ddefnyddio’r deunyddiau hynny.

  2. Mae'r holl farciau masnach, brandiau a logos a nodwyd yn gyffredinol naill ai gyda'r symbolau ™ neu ® a ddefnyddir ar y wefan hon naill ai yn eiddo i ni neu mae gennym drwydded i'w defnyddio. Nid yw eich mynediad i'n gwefan yn eich trwyddedu i ddefnyddio’r marciau hynny mewn unrhyw ffordd fasnachol heb gael ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw.

  3. Mae unrhyw sylwadau, adborth, syniad neu awgrym (a elwir yn "Sylwadau") a roddwch i ni drwy'r wefan hon yn dod eiddo i ni. Os byddwn yn defnyddio eich Sylwadau wrth hyrwyddo ein gwefan neu mewn unrhyw ffordd arall yn y dyfodol, ni fyddwn yn atebol am unrhyw debygrwydd a allai ymddangos o ddefnydd o'r fath. Ar ben hynny, rydych yn cytuno fod hawl gennym i ddefnyddio eich Sylwadau at unrhyw ddiben masnachol neu anfasnachol heb iawndal i chi neu i unrhyw berson arall sydd wedi trosglwyddo eich Sylwadau.

  4. Os byddwch yn rhoi Sylwadau, rydych yn cydnabod eich bod yn gyfrifol am gynnwys deunydd o'r fath gan gynnwys ei gyfreithlondeb, gwreiddioldeb a hawlfraint.

Ymwadiadau

  1. Er ein bod yn cymryd pob gofal dyledus wrth ddarparu ein gwasanaethau, nid ydym yn darparu unrhyw warant naill ai'n ddiamwys neu'n ddealledig, gan gynnwys heb gyfyngiad gwarantau gwerthadwyedd neu addasrwydd at ddiben penodol.

  2. I'r graddau a ganiateir gan y gyfraith, mae unrhyw amod neu warant a fyddai fel arall yn ddealledig yn yr amodau a'r telerau hyn yn cael eu heithrio.

  3. Rydym hefyd yn cymryd pob gofal dyledus wrth sicrhau bod ein gwefan yn rhydd o unrhyw firws, mwydyn, ceffyl Trojan a/neu malware, fodd bynnag, nid ydym yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i'ch system gyfrifiadurol sy'n codi mewn cysylltiad â'ch defnydd o'n gwefan neu unrhyw wefan gysylltiedig.

  4. O bryd i'w gilydd efallai y byddwn yn cynnal cynnwys trydydd parti ar ein gwefan megis hysbysebion ac ardystiadau sy'n perthyn i fasnachwyr eraill. Mae'r cyfrifoldeb am gynnwys deunydd o'r fath yn gorwedd gyda pherchnogion y deunydd ac nid ydym yn gyfrifol am unrhyw wallau neu hepgorion mewn deunydd o'r fath.

Cyfyngiad ar Atebolrwydd

  1. I'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith, mae ein hatebolrwydd am dorri gwarant neu amod ddealledig yn gyfyngedig i gyflenwi’r Gwasanaeth eto neu dalu'r costau o gael y gwasanaethau hynny wedi’u cyflenwi eto.

  2. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled o gwbl gan gynnwys colled ganlyniadol a ddioddefir gennych chi sy'n deillio o’r gwasanaethau yr ydym wedi eu darparu.

Indemniad

  1. Drwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn cytuno i’n hindemnio a'n cadw ni'n ddiddrwg rhag pob hawliad, gweithred, iawndal, costau a threuliau, gan gynnwys ffioedd cyfreithiol sy'n deillio o neu a gododd mewn cysylltiad â'ch defnydd o'n gwefan.

Awdurdodaeth

  1. Mae'r telerau ac amodau yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw hawliad a wneir gan y naill barti yn erbyn y llall sydd mewn unrhyw ffordd yn deillio o'r telerau a'r amodau hyn yn cael eu clywed yng Nghymru neu Loegr ac rydych yn cytuno i ymostwng i awdurdodaeth y Llysoedd hynny.

  2. Os bydd unrhyw ddarpariaeth yn y telerau ac amodau hyn yn annilys dan unrhyw ddeddf bydd y ddarpariaeth yn cael ei gyfyngu, culhau, dehongli neu ei newid yn ôl yr angen i'w wneud yn ddilys ond dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i gyflawni dilysrwydd o'r fath. Os bydd angen, bydd y ddarpariaeth annilys yn cael ei ddileu o'r telerau ac amodau hyn a bydd y darpariaethau sy'n weddill yn parhau mewn grym ac effaith lawn.

Preifatrwydd

  1. Rydym yn ymrwymo i gymryd pob gofal dyledus o unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rannu gyda ni wrth ddefnyddio’n gwefan. Fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu ac ni allwn sicrhau diogelwch unrhyw wybodaeth yr ydych yn ei rannu gyda ni. Trosglwyddir unrhyw wybodaeth i ni yn gyfan gwbl ar eich menter eich hun er ein bod yn ymrwymo i gymryd camau rhesymol i gadw gwybodaeth o'r fath mewn modd diogel.

  2. Bydd eich manylion cyswllt yn cael eu defnyddio gan Sustrans neu'r prif bartner Her yn ystod yr Her i anfon diweddariadau ebost yn hyrwyddo'r Her, yn eich atgoffa i annog eich ffrindiau a'ch cydweithwyr i gofrestru ar yr Her ac yn eich diweddaru ar gynnydd yr Her yn gyffredinol. Ar gyfer Heriau lle mae’r negeseuon ebost hyn yn cael eu hanfon allan gan y prif bartner Her, bydd Sustrans yn rhannu eich manylion cyswllt gyda'r prif bartner Her er mwyn eu galluogi i gysylltu â chi i rannu’r negeseuon ebost diweddaru a restrir uchod. Bydd eich data yn cael ei rannu yn ddiogel gan ddefnyddio safle rhannu ffeiliau diogel wedi’i ddiogelu gan gyfrinair sy’n eiddo i Sustrans. Byddwch yn cael yr opsiwn i roi’r gorau i dderbyn y negeseuon ebost hyn gyda phob ebost sy'n cael ei anfon allan.

  3. Os byddwch yn dewis cofrestru gyda thîm, byddwch yn cytuno i’ch enw a chyfeiriad ebost fod ar gael i’r person sydd wedi’i restru fel cydlynydd y tîm. Fel arfer, y person a gofrestrodd y tîm yn y lle cyntaf yw hwn. Bydd eich manylion ar gael i’r person hwn at ddiben galluogi’r cydlynydd tîm i adnabod pwy sydd wedi ymuno â’r tîm ac i’w alluogi i gyfathrebu gyda’r tîm. Rydym felly’n argymell eich bod yn defnyddio’ch cyfeiriad ebost gwaith yn hytrach na chyfeiriad ebost personol. Ni fydd eich manylion cyswllt yn cael eu rhannu rhwng timau.

  4. Rydych yn cytuno y caiff Sustrans a’r prif bartner Her gysylltu gyda chi yn dilyn yr Her er mwyn hyrwyddo’u mudiad neu brosiect. Byddwch yn gallu dewis rhoi’r gorau i dderbyn negeseuon ebost pellach yn dilyn y cysylltiad hwn.

  5. Yn dilyn yr Her, efallai y bydd Sustrans yn cysylltu gyda chi i ofyn i chi gwblhau arolwg yn dilyn yr Her er mwyn galluogi Sustrans i gyfrifo buddion cyffredinol yr Her.

  6. Amlinellir ein cydymffurfiaeth gyda deddfwriaeth preifatrwydd yn ein Polisi Preifatrwydd ar wahân, sydd ar gael o hafan gwefan yr “Yr Her”.

Cymhwysedd a Siwrneiau

  1. Bydd yr Her yn cael ei chynnal rhwng y dyddiadau a arddangosir ar dudalen “Yngl?n â’r Her” ein gwefan sydd i’w gweld ar “wefan yr Her” y cyfeirir ati uchod (“Cyfnod yr Her”).

  2. I gymryd rhan yn yr Her rhaid i chi fyw neu weithio yn yr ardal a amlinellir ar y dudalen “pwy all gymryd rhan”, sydd i’w gweld ar “wefan yr Her” y cyfeirir ati uchod. Mae’n rhaid i chi fod dros 16 mlwydd oed.

  3. Caniateir i weithwyr a gwirfoddolwyr Sustrans gymryd rhan yn yr Her fel unigolyn neu fel rhan o dîm, ond ni fyddant yn gymwys i ennill unrhyw wobrau.

  4. Rhaid i siwrneiau gael eu cofnodi ar “wefan yr Her” y cyfeirir ati uchod o fewn Cyfnod yr Her er mwyn cyfrannu at ganlyniadau unigolyn neu dîm.

  5. Dim ond ar ôl eu cwblhau y dylid cofnodi siwrneiau.

  6. Mae'r Her yn cynnwys pob taith a amlinellir yn yr adran "Pa Siwrneiau sy’n Cyfrif" ar dudalen we " Yngl?n â’r Her " sydd i’w gweld ar "wefan yr Her" y cyfeirir ati uchod. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dim ond y dulliau teithio a restrir yn y cyfleuster "cofnodi siwrne " ar "y wefan Her" y byddwch yn gallu eu cofnodi.

  7. Nid yw teithiau beic yn cynnwys defnyddio beiciau modur neu feiciau llonydd. Efallai y bydd rhai Heriau yn cynnwys beiciau modur fel dull teithio ar wahân.

  8. I gymryd rhan yn yr Her, rhaid i gyfranogwyr gofrestru yn gyntaf ar "wefan yr Her" y cyfeirir ati uchod. Fel arfer, bydd cofrestru ar gyfer Her ar agor o tua 1 mis cyn "Her" a thrwy gydol Cyfnod yr Her.

  9. Ar ôl creu tîm sefydliad, bydd y cyfranogwyr yn nodi nifer y bobl a gyflogir yn y sefydliad hwnnw. Bydd timau yn cael eu dyrannu i'r categori maint priodol ar gyfer eu tîm. Os bydd maint tîm yn cynyddu i fwy na’u categori maint presennol, bydd Sustrans symud y tîm i'r categori maint priodol.

  10. Mae pob cyfranogwr yn cymryd rhan yn yr Her ar eu menter eu hunain. Nid yw Sustrans yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir o ganlyniad i gymryd rhan yn yr Her.

Y Gystadleuaeth, Gwobrau a Gwobrwyo

  1. Nid oes rhaid prynu unrhyw beth.

  2. Bydd disgwyl i’r cyfranogwyr fod yn onest a chofnodi’r milltiroedd a deithiwyd yn unig. Bydd Sustrans yn monitro’r milltiroedd a gofnodir ac yn cadw'r hawl i wrthod cofnodion yn llwyr ar ei ddisgresiwn.

  3. Ble dyfarnir gwobrau gall fod angen i'r enillwyr ddarparu rhywfaint o dystiolaeth o'u teithiau. Gall hyn fod ar ffurf cyfweliad byr gyda staff Sustrans a darparu datganiad wedi'i lofnodi yn datgan bod yr holl deithiau a gofnodwyd yn gynrychiolaeth wir a chywir o'u teithiau yn ystod yr Her.

  4. Ni fydd Sustrans yn derbyn unrhyw gofrestriadau na chofnodion hwyr, anghyflawn, llygredig, neu anghywir o siwrneiau.

  5. Ar gyfer yr Her Tîm - Ar ddiwedd cyfnod yr Her, gall gwobr gael ei dyfarnu i dîm buddugol ym mhob categori maint. Gall y tîm buddugol fod naill ai yn dîm sy'n cyflawni'r gyfradd cyfranogaeth uchaf mewn perthynas â maint cyffredinol y sefydliad yn ystod Cyfnod yr Her neu nifer cyfartalog uchaf o deithiau mewn perthynas â maint cyffredinol y tîm. Manylir ar y dull o ddewis y tîm buddugol ar gyfer yr Her hon yn fanwl yn adran "Sut ydw i'n ennill" ar dudalen we "Yngl?n â’r Her" ar "wefan yr Her" y cyfeirir ati uchod. Mae manylion y gwobrau tîm i'w cael ar y dudalen we "Gwobrau" ar "wefan yr Her" y cyfeirir ati uchod.

  6. Pe bai dau dîm gyda’r un sgôr, y tîm buddugol fydd yr un gyda’r cyfanswm milltiroedd mwyaf.

  7. Hysbysu enillwyr tîm – bydd Sustrans neu'r "prif bartner Her" yn cysylltu â gweinyddwyr (fel arfer y sawl a gofrestrodd y tîm) y timau buddugol drwy ebost gan ddefnyddio'r cyfeiriad ebost a ddefnyddiwyd gan y gweinyddwr tîm i gofrestru ar gyfer "yr Her". Bydd enwau'r timau buddugol hefyd yn cael eu harddangos ar y dudalen we "Gwobrau" ar wefan "Yr Her" ar ôl i'r enillwyr gwobrau gael eu dewis ar gyfer pob gwobr a bydd yn aros ar y dudalen we "Gwobrau" ar ôl diwedd yr Her. Bydd Sustrans neu'r "prif bartner Her" yn gwneud ymdrech resymol i gysylltu gydag enillwyr drwy ebost. Os, am unrhyw reswm, nad yw Sustrans neu'r "prif bartner Her" yn gallu cysylltu ag enillydd y wobr, yn cynnwys fod y cyfeiriad ebost a ddarparwyd yn annilys, yna cyfrifoldeb enillydd y wobr fydd cysylltu gyda Sustrans neu'r "prif bartner Her" i hawlio eu gwobr.

  8. Cyflwyno gwobrau tîm – bydd Sustrans neu'r "prif bartner Her" yn trafod y gwaith o ddarparu gwobr y tîm pan fyddent wedi cysylltu gyda gweinyddwr y tîm neu dimau buddugol.

  9. Fel amod o dderbyn gwobr, mae’r timau buddugol yn cytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddusrwydd a hyrwyddo i hyrwyddo'r tîm buddugol fel rhan o'r Her, Sustrans a'r "prif bartner Her".

  10. Yr Her unigol – ar ddiwedd yr Her, gall amrywiaeth o wobrau gael eu cyflwyno i’r unigolyn neu’r unigolion sydd wedi cofnodi’r nifer fwyaf o siwrneiau yn ystod cyfnod yr Her drwy wahanol ddulliau trafnidiaeth. Ceir manylion y gwobrau ar y dudalen we “Gwobrau” sydd ar “wefan yr Her” y cyfeirir ati uchod.

  11. Mewn achos o sgôr gyfartal e.e. Pan fydd 2 neu fwy o unigolion yn cofnodi’r un nifer o deithiau ar gyfer un categori gwobr, bydd y safle yn cael ei benderfynu gan y cyfanswm ffigurau milltiroedd, hynny yw, bydd yr unigolyn gyda'r cyfanswm milltiroedd mwyaf yn cael y safle uchaf.

  12. Ar gyfer yr Her unigol – Yn ystod yr Her – mae’n bosib y bydd nifer o rafflau gwobrau yn cael eu cynnal i ddewis enillwyr wythnosol am amrywiaeth o wobrau gyda’r bwriad o annog cyfranogaeth yn yr Her. Ceir manylion am y rafflau gwobrau hyn ar y dudalen we “Gwobrau” ar “wefan yr Her” y cyfeirir ati uchod. Bydd enillwyr y gwobrau hyn yn cael eu dewis ar hap o blith y gr?p o gyfranogwyr a nodir i gael eu cynnwys yn y raffl honno yn unol â’r manylion sydd i’w cael ar y dudalen we “Gwobrau” ar “wefan yr Her” y cyfeirir ati uchod.

  13. Ar gyfer yr Her unigol – yn ystod yr Her – gall amrywiaeth o wobrau wythnosol gael eu cynnig am y ffotograffau neu sylwadau gorau ar hafan gwefan “yr Her” gan gyfranogwyr. Bydd enillwyr y gwobrau hyn yn cael eu dewis gan ac ar ddisgresiwn Sustrans neu’r “prif bartner Her”. Ceir manylion y gwobrau hyn ar y dudalen we “Gwobrau” ar “wefan yr Her” y cyfeirir ati uchod.

  14. Hysbysu enillwyr unigol - Bydd Sustrans neu’r “prif bartner Her” yn cysylltu gydag enillwyr gwobrau unigol gan ddefnyddio’r cyfeiriad ebost a ddefnyddiodd yr enillydd i gofrestru ar gyfer “yr Her”. Bydd enwau’r unigolion buddugol hefyd yn ymddangos ar y dudalen we “Gwobrau” ar wefan “yr Her” wedi i’r enillydd gael ei ddewis ar gyfer pob gwobr. Bydd yn aros ar y dudalen “Gwobrau” wedi i’r Her ddod i ben. Bydd Sustrans neu'r "prif bartner Her" yn gwneud ymdrech resymol i gysylltu gydag enillwyr drwy ebost. Os, am unrhyw reswm, nad yw Sustrans neu'r "prif bartner Her" yn gallu cysylltu ag enillydd y wobr, yn cynnwys fod y cyfeiriad ebost a ddarparwyd yn annilys, yna cyfrifoldeb enillydd y wobr fydd cysylltu gyda Sustrans neu'r "prif bartner Her" i hawlio eu gwobr.

  15. Cyflwyno gwobrau enillwyr unigol – Gan amlaf, bydd gwobrau unigol yn cael eu hanfon mewn ebost at enillwyr. Os bydd angen postio gwobrau at yr enillwyr, yna bydd angen i’r enillydd ddarparu cyfeiriad post i Sustrans neu’r “prif bartner Her”. Gellir gwneud hyn wrth gofrestru neu ar unrhyw adeg gan y cyfranogwr drwy ddewis golygu eu manylion proffil. Gellir gwneud hyn drwy ddewis yr opsiwn “golygu manylion” ar eu tudalen proffil eu hunain.

  16. Fel amod o dderbyn gwobr, mae’r unigolion buddugol yn cytuno i gymryd rhan mewn gweithgareddau cyhoeddusrwydd a hyrwyddo i hyrwyddo'r tîm buddugol fel rhan o'r Her, Sustrans a'r "prif bartner Her".

  17. Nid oes arian parod na gwobrau amgen ar gael ar gyfer unrhyw wobrau. Ceidw Sustrans yr hawl i gyfnewid y wobr am unrhyw wobr o werth cyfartal neu fwy mewn amgylchiadau y tu hwnt i'w reolaeth.

  18. Mae penderfyniad Sustrans ynghylch gwobrau yn derfynol ac yn bendant ac ar ein disgresiwn ni’n llwyr.

  19. Efallai y bydd angen i’r enillydd hawlio gwobr o fewn cyfnod amser rhesymol yn dilyn diwedd yr Her. Bydd y cyfnod y caniateir hawlio gwobrau fel arfer yn cael ei ddatgan pan fydd y wobr neu wobrwyon yn cael ei chyflwyno i'r enillydd. Os nad oes cyfnod hawlio yn cael ei nodi, cymerir mai 3 mis yw’r cyfnod hawlio. Os nad yw'r gwobrau yn cael eu hawlio o fewn yr amser hwn, gall yr enillydd golli ei hawl i hawlio’r wobr.

  20. Gwobrwyon – Mae gwefan yr Her yn cynnwys adran gwobrau a gyrchir drwy gyfrwng y tab "fy ngwobrwyon" ar broffil personol pob cyfranogwr. Mae’r gwobrwyon ar wahân i'r gwobrau ei hunain, a gellir eu hawlio gan y cyfranogwyr drwy gofnodi siwrneiau fel rhan o'r her. Darperir y telerau ac amodau ar gyfer gwobrwyon unigol gyda phob un o’r gwobrwyon hyn. Oni nodir yn wahanol rhaid i bob un o’r gwobrwyon gael eu hawlio o fewn 3 mis i ddyddiad gorffen yr Her.

  21. Sustrans, 2 Cathedral Square, Bryste. BS1 5DD yw’r Hyrwyddwr.