Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Gwobrau

Yn ogystal â Gwobrau i enillwyr cyffredinol yr Her, byddwn yn cynnig gwobrau ar hap bob wythnos. Ymunwch â’r Her bob wythnos am gyfle i ennill gwobr.

Mae gennym 4x taleb Wiggle £20 i’w hennill. Cofrestrwch cyn i’r Her ddechrau ac fe gewch eich cynnwys mewn raffl am gyfle i ennill un.

Gwahodd Ffrind

Gwahoddwch ffrind neu gydweithiwr cyn i’r Her ddechrau ac fe gewch eich cynnwys mewn raffl i ennill un o bedair taleb £20 i’w wario yn yr Ethical Superstore.

Gosod Targed

Gosodwch darged uchelgeisiol ar eich proffil personol cyn dechrau’r Her am gyfle i ennill un ai taleb £20 i Cineworld neu daleb £20 i siop Sustrans. Mae gennym 2 o bob un i’w rhannu.

Perswadio’ch Cydweithwyr

Gall y trydariad mwyaf perswadiol sydd yn annog eich cydweithwyr i ymuno â’r Her, ac sydd yn cynnwys yr hashnod #HerTeithio, roi cyfle i chi ennill taleb Cineworld £20.

Wythnos 1 (1–7 Gorffennaf)

Gwobr cychwyn cynnar
Gawsoch chi gychwyn cyflym? Cofnodwch eich siwrne ar ddydd Llun y 3ydd o Orffennaf am gyfle i ennill taleb Love2shop £20.

Mae’r ffotograff gorau’r wythnos hon yn ennill taleb £15 i’w gwario yn One4all. Ewch amdani!

Trydariad yr Wythnos
Gall y Trydariad neu’r post Facebook mwyaf creadigol a chalonogol ennill taleb Love2shop £20 i chi.

Wythnos 2 (8–14 Gorffennaf)

Mae gennym 2x taleb Cineworld £20 i’w rhannu’r wythnos hon am gofnodi taith.


Gwahodd Ffrind
Gwahoddwch ffrind neu gydweithiwr i ymuno â’r Her ac fe gewch eich cynnwys mewn raffl i ennill taleb Love2shop £20.

Gadewch i ni wybod sut mae’n mynd. Mae taleb Ethical Superstore £20 i’w hennill am y neges neu’r stori orau a dderbyniwn.

Wythnos 3 (15–21 Gorffennaf)

Bydd y ffotograff gorau’r wythnos hon yn ennill taleb One4all £15.

Wythnos 4 (22–28 Gorffennaf)

Gadewch i ni wybod sut mae’n mynd. Mae taleb Ethical Superstore £20 i’w hennill am y neges neu’r stori orau ar y wefan.

Gwobr hwyrddyfodiad
Dydy hi byth yn rhy hwyr i gymryd rhan! Os byddwch chi’n cofrestru ac yn cofnodi taith yn ystod wythnos 4, gallech ennill taleb Wiggle £20.

Wythnos 5 (29–31 Gorffennaf) – Prif Wobrau

Unigolion
Y nifer fwyaf o deithiau cerdded (Raffl gwobrau o’r 10 unigolyn ar y brig): Taleb Cotswold Outdoor £50
Y nifer fwyaf o deithiau beic (Raffl gwobrau o’r 10 unigolyn ar y brig): Taleb Wiggle £50
Y nifer fwyaf o deithiau bws (Raffl gwobrau o’r 10 unigolyn ar y brig): Taleb Love2shop £50
Y nifer fwyaf o deithiau trên (Raffl gwobrau o’r 10 unigolyn ar y brig): Taleb Kindle £50
Y nifer fwyaf o deithiau rhannu car (Raffl gwobrau o’r 10 unigolyn ar y brig): Taleb Cineworld £50

Timau
Bydd y timau buddugol yn ennill cyfraniad o £100 i’w roi i elusen o’u dewis hwy:
Tîm bach gorau (maint 3–20)
Tîm bach–canolig gorau (maint 21–100)
Tîm canolig gorau (maint 101-500)
Tîm canolig–mawr gorau (maint 501-1500)
Tîm mawr gorau (maint 1500+)

Unigolion sy’n Sefyll Allan
Os gosodwch chi darged uchelgeisiol i chi’ch hun ar eich proffil personol, a’i gyrraedd neu fynd heibio iddo yn ystod yr Her, bydd cyfle i chi ennill Fitbit Alta. Mae gennym 2 i’w rhannu!