Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Preifatrwydd a Chwcis

Mae'r wefan hon yn eiddo i ac fe’i gweithredir gan {Company}, a fydd yn cael ei gyfeirio ato fel "Ni" ac "ein" yn ein Polisi Preifatrwydd Rhyngrwyd. Drwy ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i Bolisi Preifatrwydd Rhyngrwyd y wefan hon ("y wefan"), a nodir ar y dudalen we hon. Mae'r Polisi Preifatrwydd Rhyngrwyd yn ymwneud â chasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol y gallech fod yn ei gyflenwi i ni drwy eich gweithgaredd ar y wefan.

Rydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn, i addasu neu dynnu darnau o’r Polisi Preifatrwydd Rhyngrwyd hwn ar unrhyw adeg. Mae'r Polisi Preifatrwydd Rhyngrwyd hwn yn ychwanegol at unrhyw delerau ac amodau eraill sy'n berthnasol i'r wefan. Nid ydym yn cyflwyno unrhyw sicrwydd ynghylch gwefannau trydydd parti a allai fod yn gysylltiedig â'r wefan.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd diogelu preifatrwydd gwybodaeth a gesglir am ymwelwyr i'n gwefan, yn enwedig gwybodaeth sy'n gallu adnabod unigolyn ("gwybodaeth bersonol"). Mae'r Polisi Preifatrwydd Rhyngrwyd hwn yn rheoli'r modd y mae eich gwybodaeth bersonol, a gafwyd drwy'r wefan, yn cael ei drin. Dylai’r Polisi Preifatrwydd Rhyngrwyd hwn gael ei adolygu o bryd i'w gilydd fel eich bod yn cael diweddariad am unrhyw newidiadau. Rydym yn croesawu eich sylwadau a’ch adborth.

Gwybodaeth Bersonol

  1. Caiff gwybodaeth bersonol am ymwelwyr â'n safle ei gasglu dim ond pan gaiff ei gyflwyno yn fwriadol ac yn wirfoddol. Er enghraifft, efallai y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth o'r fath i ddarparu gwasanaethau pellach neu ateb neu anfon ymlaen unrhyw geisiadau neu ymholiadau. Ein bwriad yw y bydd y polisi hwn yn diogelu eich gwybodaeth bersonol rhag cael ei drin mewn unrhyw ffordd sy'n anghyson â’r deddfau preifatrwydd sy'n berthnasol yn y Deyrnas Unedig.

Defnyddio Gwybodaeth

  1. Bydd gwybodaeth bersonol y mae ymwelwyr yn ei gyflwyno i’n safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y diben y mae'n cael ei gyflwyno ato neu at ddibenion eilaidd eraill sy'n gysylltiedig â'r prif ddiben yn unig, oni bai ein bod yn datgelu defnyddiau eraill yn y Polisi Preifatrwydd Rhyngrwyd neu ar adeg y casgliad. Bydd copïau o ohebiaeth a anfonwyd gan y wefan, a all gynnwys gwybodaeth bersonol, yn cael eu storio fel archifau ar gyfer cadw cofnodion a dibenion cadw wrth gefn yn unig.

  2. Mae Sustrans yn rheolwr data cofrestredig o dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Bydd unrhyw wybodaeth bersonol a gesglir yn cael ei ddefnyddio yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 ac unrhyw ddeddfau eraill a allai fod yn gymwys.

Casglu Gwybodaeth am Aelodau Cofrestredig

  1. Fel rhan o gofrestru gyda ni, rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch er mwyn i chi fanteisio i'r eithaf ar ein gwasanaethau. I wneud hyn efallai y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol i ni fel y nodir isod.

Cofrestru

  1. Mae cofrestru yn hollol ddewisol. Gall cofrestru gynnwys cyflwyno eich enw, cyfeiriad ebost, cyfeiriad, rhifau ffôn, opsiwn ar dderbyn diweddariadau a deunydd hyrwyddo a gwybodaeth arall. Gallwch gael mynediad at y wybodaeth hon ar unrhyw adeg trwy fewngofnodi a mynd at eich cyfrif.

Datgelu

  1. Ar wahân i ble rydych wedi rhoi caniatâd neu fod datgeliad yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r diben y cafodd ei gyflwyno ar ei gyfer, gallai gwybodaeth bersonol gael ei datgelu mewn sefyllfaoedd arbennig lle mae gennym reswm i gredu bod gwneud hynny yn angenrheidiol i nodi, cysylltu neu ddwyn achos cyfreithiol yn erbyn unrhyw un sy'n niweidio, anafu, neu ymyrryd (yn fwriadol neu'n anfwriadol) gyda'n hawliau neu eiddo, defnyddwyr, neu unrhyw un arall a allai gael ei niweidio gan weithgareddau o'r fath. Hefyd, mae'n bosibl y byddwn yn datgelu gwybodaeth bersonol pan fyddwn yn credu yn ddidwyll bod y gyfraith yn gofyn am ddatgelu'r wybodaeth.

  2. Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i drydydd parti ddarparu nwyddau neu wasanaethau ar ein rhan. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'n bosibl y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i’r trydydd parti hwnnw er mwyn bodloni eich cais am nwyddau neu wasanaethau.

Diogelwch

  1. Rydym yn ymdrechu i sicrhau diogelwch, cywirdeb a phreifatrwydd yr wybodaeth bersonol a gyflwynir i'n safleoedd, ac rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein mesurau diogelwch yng ngoleuni technolegau cyfredol. Yn anffodus, ni all unrhyw drosglwyddo data dros y Rhyngrwyd fod yn gwbl ddiogel.

  2. Fodd bynnag, byddwn yn ymdrechu i gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu'r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei throsglwyddo i ni neu gan ein cynnyrch a gwasanaethau ar-lein. Unwaith y byddwn yn derbyn eich trosglwyddiad, byddwn hefyd yn gwneud ein gorau glas i sicrhau ei ddiogelwch ar ein systemau.

  3. Yn ogystal, mae'n ofynnol i’n gweithwyr a'r contractwyr sy'n darparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â’n systemau gwybodaeth barchu cyfrinachedd unrhyw wybodaeth bersonol a gedwir gennym ni. Fodd bynnag, ni fyddwn yn derbyn cyfrifoldeb am ddigwyddiadau sy'n codi o fynediad heb awdurdod at eich gwybodaeth bersonol.

Casglu Gwybodaeth i Ddefnyddwyr

  1. Cyfeiriadau IP Mae ein gweinyddion gwe yn casglu eich cyfeiriad IP i gynorthwyo gyda diagnosis problemau neu faterion cymorth gyda'n gwasanaethau. Unwaith eto, cesglir gwybodaeth gyda'i gilydd yn unig ac ni ellir ei olrhain i ddefnyddiwr unigol.

  2. Cwcis ac Applets

Nid yw'r wefan hon yn defnyddio cwcis.

Mynediad at Wybodaeth

  1. Byddwn yn ymdrechu i gymryd pob cam rhesymol i gadw unrhyw wybodaeth sydd gennym amdanoch chi yn ddiogel, ac i gadw'r wybodaeth hon yn gywir ac yn gyfredol. Os, ar unrhyw adeg, byddwch yn darganfod bod y wybodaeth a gedwir amdanoch yn anghywir, cewch gysylltu â ni i gael cywiro’r wybodaeth.

  2. Yn ogystal, mae'n ofynnol i’n gweithwyr a'r contractwyr sy'n darparu gwasanaethau sy'n gysylltiedig â’n systemau gwybodaeth i barchu cyfrinachedd unrhyw wybodaeth bersonol a gedwir gennym ni.

Dolenni i Wefannau Eraill

  1. Rydym yn darparu cysylltiadau i safleoedd gwe y tu allan i'n gwefannau, yn ogystal ag i wefannau trydydd parti. Nid yw'r safleoedd cysylltiedig hyn o dan ein rheolaeth, ac ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am ymddygiad cwmnïau sydd wedi’u cysylltu â'n gwefan. Cyn datgelu eich gwybodaeth bersonol ar unrhyw wefan arall, rydym yn eich cynghori i edrych ar delerau ac amodau defnyddio'r wefan a'i datganiad preifatrwydd.

Problemau neu Gwestiynau

  1. Os byddwn yn dod yn ymwybodol o unrhyw bryderon neu broblemau parhaus gyda'n gwefannau, byddwn yn cymryd y materion hyn o ddifrif ac yn gweithio i fynd i'r afael â'r pryderon hyn. Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach ynghylch â’n Polisi Preifatrwydd, neu os oes gennych broblem neu g?yn, cysylltwch â ni.

Rhagor o Wybodaeth Preifatrwydd

  1. I gael rhagor o wybodaeth am faterion preifatrwydd yn y DU a diogelu eich preifatrwydd, ewch i wefan y Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: http://www.ico.gov.uk/.