Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Cyfrifo’ch arbedion costau

Pan fyddwch chi’n cofnodi siwrne ac yn dweud wrthym sut y byddech wedi gwneud y siwrne hon fel arall (pe na fyddech chi’n cymryd rhan yn yr her), rydym yn cymharu’r ddau ddull teithio i weld y gwahaniaeth mewn cost ar gyfer pob siwrne. Mae’r rhif hwn yn rhoi’r cyfanswm arbedion hyd yma yn ystod yr her. Mae’r rhif llai ar waelod y blwch yn nodi faint o arian yr ydych wedi ei arbed o gymharu â rhywun yn teithio mewn car – pe bai eich holl siwrneiau a gofnodwyd wedi bod mewn car fel arall, bydd y ffigurau hyn yr un fath a’i gilydd.

Mae’r cyfrifiadau wedi’u seilio ar ddata’r AA ar gost rhedeg car, gan ddefnyddio ffigurau wedi’u hamcangyfrif ar gyfer car canolig.