Logo

Teithiau Iach i'r Gwaith

Cyngor y Prif Swyddogion Meddygol

Mae’r Prif Swyddogion Meddygol wedi datgan y dylai oedolion wneud dau fath o weithgaredd corfforol bob wythnos er mwyn aros yn iach neu wella iechyd: ymarferion aerobig a rhai cryfder. Mae faint o weithgaredd corfforol y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar eich oedran. Dylai oedolion rhwng 19-64 geisio bod yn actif yn ddyddiol a dylid gwneud o leiaf 150 munud o weithgaredd aerobig cymedrol fel beicio neu gerdded cyflym bob wythnos, ynghyd ag ymarferion cryfder sy’n gweithio ar yr holl brif gyhyrau, dwywaith yr wythnos neu’n amlach.